YmarfWe - Ymarfer Cerddoriaeth ar y We

Beth yw YmarfWe?

Cysyniad arloesol yw YmarfWe. Mae yn trawsnewid y profiad o ddysgu darllen cerddoriaeth, yn gwneud hynny mor bleserus â phosib ac yn dod â fe fwy-fwy o fewn cyrraedd pobl nac erioed o’r blaen.

Read more... Am Ddim am 7 Diwrnod

Dyma beth yw YmarfWe

Mae e mor rhwydd i’w ddefnyddio ac mae’r canlyniadau yn syfrdanol. Gall dosbarth o blant s'yn chwarae'r recorder ddarllen y gerddoriaeth oddiwrth Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol, neu fe all grwp bach ei darllen o un sgrin cyfrifiadur. Gall y plant gael ei ddefnyddio adref ar ôl tanysgrifio iddo ar y rhyngrwyd. Nid oes angen prynu setiau o lyfrau.

Mae YmarfWe ar gael i’w ddefnyddio yn y dosbarth ac hefyd am bris ychwanegol i ymarfer gartref ar y rhyngrwyd.

More information

Sut mae YmarfWe yn gweithio?

Gellir clywed y melodi wth ymarfer neu’i glicio i ffwrdd nad oes ei hangen. Mae‘r Rhifwr Curiad yn cadw’r amser. Mae’r cyfeiliant sydd i bob cân a phob ymarfer hyd yn oed, yn gwneud yr ymarfer yn hynod bleserus. Mae gan bob darn rannau o wahannol raddau o anawsterau y gellir eu hymarfer. Mae hyn yn caniatáu i bawb yn y dosbarth elwa o ymwneud â'r profiad cerddorol.

Mae’r broblem oesol o ymarfer yn anghywir a’r diflastod sy’n dod yn sgil hynny wedi ei datrys wrth ddefnyddio YmarfWe.

More information

Sut alla’ i gael YmarfWe?

Cliciwch y botwm addas isod sef Cofrestru Ysgolion neu Cofrestru Cartref. Dilynwch y cyfarwyddyd fydd yn ymddangos ar y dudalen nesaf a llenwch y Ffurflen Gofrestru.

Am Ddim am 7 Diwrnod: Ar ôl tanysgrifio byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau eich mynediad i Safle We YmarfWe am 7 Diwrnod llawn AM DDIM. Ar ôl hyn, cewch ddewis os ydych am barhau gyda’ch tanysgrifiad trwy daliad misol neu flynyddol.

Taliad: Gyda’r opsiwn i dalu'n fisol neu'n flynyddol. Wrth danysgrifio fe dderbyniwch ebost fydd yn caniatáu mynediad ar unwaith i YmarfWe am gyfnod eich tanysgrifiad.

Cofrestru Ysgolion Cofrestru Cartref